Paratowyd y ddogfen hon gan gyfreithwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi gwybodaeth a chyngor i Aelodau’r Cynulliad a’u staff am faterion y mae’r Cynulliad a’i bwyllgorau’n eu hystyried ac nid at unrhyw ddiben arall. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a’r cyngor a geir yn y ddogfen hon yn gywir, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw ddibyniaeth a roddir arnynt gan drydydd parti.
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Papur briffio cyfreithiol – Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth
1. Cyflwyniad i’r Bil a throsolwg ohono
1.1 Mae’r papur hwn yn amlinellu pa bwerau sydd wedi’u cynnwys yn y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) (“y Bil”) i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth.
1.2 Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod “Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn gweithredu cynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru. Mae’r Bil yn creu gofyniad statudol ar awdurdodau bwyd i weithredu cynllun sgorio hylendid bwyd (sy’n cynnwys sgorio busnesau bwyd a gorfodi’r cynllun) ac yn rhoi dyletswydd ar fusnesau bwyd i arddangos eu sgôr hylendid bwyd yn eu sefydliadau. Bwriad y Bil yw sicrhau bod defnyddwyr yn cael yr wybodaeth am safonau hylendid bwyd busnesau bwyd yng Nghymru. Bydd hyn yn galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau mwy cytbwys ynghylch ble i fwyta neu siopa am fwyd.”
2. Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth
2.1 Mae’r Bil yn cynnwys nifer o bwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth. Ceir esboniad o’r rhain yn Rhan 5 o’r Memorandwm Esboniadol a osodwyd gyda’r Bil ac yn y Nodiadau Esboniadol sy’n ymddangos ar ddiwedd y Memorandwm hwnnw.
2.2 Mae Rheol Sefydlog 26.6(vii) yn nodi bod yn rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol, wrth gyflwyno Bil, osod Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef ac sy’n cynnwys y materion a ganlyn:
(vii) Os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, nodi mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath:
(a) Y person neu’r corff y rhoddir y pwer iddo ac ym mha fodd y mae’r pŵer i gael ei arfer;
(b) Pam y bernir ei bod yn briodol dirprwyo’r pŵer; ac
(c) Y weithdrefn Cynulliad (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth a wnaed neu sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod odani, a pham y barnwyd ei bod yn briodol ei gosod o dan y weithdrefn honno (ac nid ei gosod o dan unrhyw weithdrefn arall).
2.3 Mae adran 24 o’r
Bil yn darparu y caiff rheoliadau a gorchmynion o dan y Bil eu
gwneud drwy offeryn statudol ac mae’n nodi gweithdrefn
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) ar gyfer
yr offerynnau hynny.
2.4 Mae’r Bil yn nodi’r pwerau a ganlyn i wneud is-ddeddfwriaeth:-
Adran 2(6)(a): Pŵer i wneud rheoliadau i ddiwygio’r diffiniad o sefydliad busnes bwyd er mwyn lleihau neu ehangu’r categoriau o sefydliadau busnes bwyd y mae’n ofynnol iddynt gael sgôr hylendid bwyd.
Penderfyniad y weithdrefn gadarnhaol
Adran 2(6)(b): Pŵer i wneud rheoliadau i ddiwygio’r diffiniad o awdurdod bwyd.
Penderfyniad y weithdrefn gadarnhaol
Adran 3(2): Pŵer i wneud rheoliadau i ddod â sefydliadau a gafodd eu sgorio o dan gynllun gwirfoddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd o fewn sgôp y cynllun gorfodol newydd drwy ganiatáu sgoriau hylendid bwyd newydd (statudol) sefydliadau hynny yn seiliedig ar asesiadau o safonau hylendid bwyd sefydliad a gynhaliwyd cyn cychwyn y Bil.
Penderfyniad y weithdrefn gadarnhaol
Adran 3(3)(c): Pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi ffurf y sticer sgorio hylendid bwyd y mae’n rhaid i’r awdurdod bwyd ei roi a’i arddangos gan y gweithredwr.
Penderfyniad y weithdrefn negyddol
Adran 3(3)(d): Pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi pa wybodaeth (ar wahân i’r wybodaeth sy’n ofynnol gan gymal 3(3)(a), (b) a (c)) y mae’n rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon i weithredydd y sefydliad.
Penderfyniad y weithdrefn negyddol
Adran 3(5): Pŵer i wneud rheoliadau i alluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi y gall rhai categorïau o sefydliadau gael eu heithrio o’r sgorio.
Penderfyniad y weithdrefn gadarnhaol
Adran 5(4): Pŵer i wneud rheoliadau i alluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi’r ffurf y mae’n rhaid i weithredydd ei defnyddio wrth apelio yn erbyn sgôr hylendid bwyd.
Penderfyniad y weithdrefn negyddol
Adran 5(7)(d): Pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi, drwy reoliadau, pa wybodaeth (ar wahân i’r wybodaeth sy’n ofynnol gan gymal 5(7)(a), (b) a (c)) y mae’n rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon at weithredydd y sefydliad yn dilyn newid i’r sgôr hylendid bwyd yn sgil apêl.
Penderfyniad y weithdrefn negyddol
Adran 6(2): Pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi pa wybodaeth bellach y mae’n rhaid i’r awdurdod bwyd ei darparu i’r ASB (yn ychwanegol at yr wybodaeth yng nghymal 6(1)).
Penderfyniad y weithdrefn negyddol
Adran 7(3): Pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi’r lleoliad a’r dull o arddangos y sticer sgorio hylendid bwyd.
Penderfyniad y weithdrefn negyddol
Adran 11(2): Pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi’r ffurf y mae’n rhaid i weithredydd ei defnyddio wrth wneud cais am arolygiad ail-sgorio.
Penderfyniad y weithdrefn negyddol
Adran 11(9)(d): Pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi pa wybodaeth (ar wahân i’r wybodaeth sy’n ofynnol gan gymal 11(9) (a), (b) a (c)) y mae’n rhaid i’r awdurdod bwyd ei hanfon at weithredydd y sefydliad yn dilyn newid i sgôr hylendid bwyd yn sgil arolygiad ail-sgorio.
Penderfyniad y weithdrefn negyddol
Adran 14(1): Pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon at weithredwyr sefydliadau busnes bwyd newydd yn ei ardal o fewn 14 diwrnod i gofrestru’r sefydliad.
Penderfyniad y weithdrefn negyddol
Adran 25: Pŵer i gychwyn y Bil.
Dim gweithdrefn
Atodlen 1, Rhan 1 paragraff 3: Pŵer, drwy reoliadau, i ragnodi terfynau gwahanol ar gyfer y gosb benodedig a’r gosb ostyngol i’r rhai a roddir yn Atodlen 1, Rhan 1, paragraffau 1 a 2.
Penderfyniad y weithdrefn negyddol
3. Casgliad
3.1 Nid yw’n ymddangos bod unrhyw ddarpariaethau anarferol yn y Bil. Fodd bynnag, efallai fod y Pwyllgor am ystyried a oes cydbwysedd priodol rhwng y pwerau sydd ar wyneb y Bil a’r rhai sydd wedi’u gosod yn y pwerau gwneud rheoliadau, ac a yw’n credu y dylai unrhyw rai o’r pwerau gwneud rheoliadau fod yn ddarostyngedig i weithdrefn wahanol.
Y Gwasanaethau Cyfreithiol
Mehefin 2012